Arddangos bwyd môr Cymru mewn digwyddiad byd-eang arbennig
Bydd pedwar o gwmnïau bwyd môr o Ogledd Cymru yn ceisio gwneud argraff yn nigwyddiad byd-eang mwyaf y diwydiant yn Barcelona yr wythnos nesaf. Bydd arddangosfeydd o dros 80 o wledydd i’w gweld yn y Seafood Expo Global, sy’n cael ei gynnal rhwng 25 a 27 Ebrill. Bydd Ross Shellfish Ltd o Gaernarfon, South Quay Shellfish ac Ocean Bay Seafoods o Gaergybi a The Lobster Pot o Borth Swtan, yn cynrychioli Cymru. Mae Barcelona yn...