Rhaglen Busnes ac Arloesedd
Ydych chi’n frwdfrydig dros ffermio ac ynglŷn â'ch dyfodol? Os felly, rydyn ni eisiau clywed gennych chi…
Mae Rhaglen Busnes ac Arloesedd Academi Amaeth Cyswllt Ffermio, sydd wedi'i ariannu'n llawn yn anelu at:
- Wella eich dealltwriaeth o faterion a meddylfryd sy'n effeithio ar lwyddiant eich busnes
- Gwella eich ymwybyddiaeth o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu eich busnes yn y dyfodol
- Cefnogi datblygiad personol trwy weithdai a seminarau
- Cynnig cyfle i gwrdd ag arbenigwyr ac arweinwyr busnes yn y diwydiant
- Creu amgylchedd i wella sgiliau rheoli busnes
- Hybu rhwydweithio effeithiol ymysg y busnesau amaethyddol mwyaf blaengar yng Nghymru
Bydd ymgeiswyr yn derbyn cefnogaeth un-i-un gan fentor profiadol. Bydd ‘Her yr Academi’ yn cynnwys paratoi cynllun rheoli ar gyfer fferm deuluol sy’n gweithio.
Mae ffenestr ymgeisio ar gyfer yr Academi Amaeth 2023 ar gau. Gweler ymgeiswyr llwyddiannus 2023 isod.
Cychwyn a Chyflwyniadau
|
Sioe Frenhinol Cymru |
24 Gorffennaf 2023 |
SESIWN 1: Deall y gadwyn gyflenwi |
Swydd Gaerlŷr, Lloegr |
15 - 17 Medi 2023 |
SESIWN 2: Taith Astudio Tramor |
Ontario, Canada |
1 – 7 Hydref 2023 |
SESIWN 3: Adeiladu fy musnes |
Aberhonddu, Powys |
16 - 19 Tachwedd 2023 |
SEREMONI ACADEMI AMAETH |
Ffair Aeaf Frenhinol Cymru |
27 Tachwedd 2023 |
SESIWN I GLOI: Beth nesaf? |
Aberystwyth |
12 - 13 Rhagfyr 2023
|
PWYSIG - rhaid i ymgeiswyr fynychu pob un o'r sesiynau uchod a rhaid iddynt gael pasbort sy'n ddilys am o leiaf 6 mis ar ôl yr ymweliad astudio. Gall methu ag ymrwymo'n llawn i holl brofiad yr Academi Amaeth arwain at ddiarddel o'r rhaglen a gorchymyn i ad-dalu costau'r daith. Ni all aelodau fod yn absennol o sesiynau preswyl, oni bai bod unrhyw un o’r canlynol yn berthnasol
- Profedigaeth agos yn y teulu
- Salwch personol a nodyn meddyg dilys
- Cyfrifoldebau gofal brys ac anochel am ddibynnydd
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'ch Swyddog Datblygu Lleol.